P-05-1009 Gorchmynnwch Gynghorau Cymru i gymhwyso gordal o 100 y cant o leiaf i’r Dreth Gyngor ar ail gartrefi

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Michael Murphy, ar ôl casglu cyfanswm o 1,026 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae ail gartrefi a chartrefi tymhorol yn dinistrio ein cymunedau gwledig, tra’u bod yn prisio pobl leol allan o’r farchnad dai. Yn y cyfamser, mae llawer o berchnogion ail gartrefi yn osgoi talu unrhyw Dreth Gyngor drwy hawlio rhyddhad ardrethi busnesau bach. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn mynd ati o ddifrif i anghymell hyn a chymhwyso cosbau o 10 y cant o werth ail gartref am achosion o osgoi bwriadol.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         De Caerdydd a Phenarth

·         Canol De Cymru